Dyddiad yr Adroddiad

09/01/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202300186

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn wedi’i hunangyfeirio gan Aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) ei fod wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).  Honnwyd bod y Cyn-Aelod wedi recordio nodyn llais hiliol (recordiad llais sain o neges) a anfonodd wedyn at ei bartner, trwy’r ap negeseuon gwib “WhatsApp”.  Honnwyd hefyd fod y Cyn-Aelod wedi rhannu gwybodaeth yn ymwneud â busnes y Cyngor ochr yn ochr â sylwadau amharchus am aelodau’r cyhoedd i’w bartner, drwy WhatsApp.

Ar adeg cyflwyno’r gŵyn hunangyfeiriedig, roedd y Cyn-Aelod yn aelod o’r Cyngor.  Ymddiswyddodd yn ddiweddarach.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(b) – Rhaid i aelodau ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.
  • 5(a) – Rhaid i aelodau beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth y byddai’n rhesymol ystyried ei bod o natur gyfrinachol, heb gydsyniad datganedig person a awdurdodwyd i roi cydsyniad o’r fath, neu onid yw’r gyfraith yn mynnu eich bod yn gwneud hynny;
  • 6(1)(a) – Rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu awdurdod.

Ystyriodd yr ymchwiliad wybodaeth gan y Cyngor.  Cafwyd tystiolaeth tystion, a chafwyd Adroddiad Tystiolaeth Ddigidol gan ddarparwr Fforensig Digidol ac Ymchwiliadau Fforensig Corfforaethol.

Cyfwelwyd â’r Aelod hefyd.

Canfu’r ymchwiliad, ar y cyfan, fod y Cyn-Aelod wedi creu’r recordiad llais a’i fod wedi’i anfon at ei bartner drwy WhatsApp.  Ystyriwyd bod cynnwys y recordiad llais yn hiliol.  Ystyriwyd tystiolaeth o adrodd eang yn y cyfryngau am y recordiad llais.  Canfu’r ymchwiliad y gellid ystyried yn rhesymol fod ymddygiad y Cyn-Aelod yn ddianrhydedd ac y gallai danseilio hyder y cyhoedd yn y Cyngor a swydd yr aelod yn ddifrifol, gan awgrymu felly ei fod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd y Cyn-Aelod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd pan rannodd wybodaeth yn ymwneud â busnes y Cyngor ochr yn ochr â sylwadau amharchus am aelodau’r cyhoedd i’w bartner, drwy WhatsApp.  Felly, canfuwyd nad oedd paragraffau 4(b) a 5(a) o’r Cod yn berthnasol yn yr achos hwn.  Fodd bynnag, canfuwyd gan yr ymchwiliad fod rhannu’r wybodaeth ynghyd â sylwadau anrhydeddus am aelodau’r cyhoedd yn amhriodol ac yn awgrymu achos pellach o dorri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru i’w dyfarnu gan dribiwnlys.  Penderfynodd y Tribiwnlys Achos fod y Cyn-Aelod wedi gweithredu yn groes i baragraff 6(1)(a) o’r Cod.  Cafodd ei anghymhwyso rhag gweithredu fel cynghorydd i unrhyw awdurdod am gyfnod o 4 blynedd.