Dyddiad yr Adroddiad

10/20/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202201568

Canlyniad

Dim Angen Gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn y gallai aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Fynwy (“y Cyngor”) fod wedi torri’r Cod Ymddygiad oherwydd y sylwadau a wnaeth yr Aelod mewn cyfarfod cyhoeddus o’r Cyngor am berson coll.  Honnwyd bod y sylwadau yn ansensitif i deulu’r person coll.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri paragraffau 4(b), a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor   Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld.  Cyfwelwyd â’r Aelod.  Cafwyd gwybodaeth gan yr Heddlu.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod etholwr, a oedd hefyd yn perthyn i’r person coll, wedi gofyn i’r Aelod am help.  Ni rannodd yr Heddlu unrhyw wybodaeth gyda’r Aelod am y person coll.  Canfu’r Ombwdsmon fod esboniad yr Aelod ei fod yn gweithredu ar ran ei etholwr wrth wneud y sylwadau yn ymddangos yn rhesymol.  Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon y dylai’r Aelod fod wedi ystyried natur sensitif a gofidus y mater.  Roedd yr achwynydd yn teimlo bod sylwadau’r Aelod yn annymunol ac yn ofidus i’w clywed a nododd yr Ombwdsmon fod y sylwadau wedi’u gwneud mewn cyfarfod cyhoeddus llawn o’r Cyngor.  Roedd o’r farn y gallai natur gyhoeddus y sylwadau a’r cyfeiriadau at y person coll gael ei ystyried yn amharchus i deulu’r person a oedd ar goll.  Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai trafod mater mor sensitif ac annifyr fel rhan o fusnes y Cyngor fod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth i’r achwynydd ac yn unol â hynny, eu bod yn torri paragraff 4(b) o’r Cod.

Dywedodd yr Aelod ei fod yn cynrychioli ei etholwr wrth wneud y sylwadau a bod ei sylwadau wedi’u gwneud fel rhan o bwynt gwleidyddol.  Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid ystyried yn ofalus yr amddiffyniad uwch sydd gan gynghorwyr, sy’n caniatáu defnyddio iaith mewn dadleuon gwleidyddol a allai, mewn cyd-destunau anwleidyddol, gael ei hystyried yn amhriodol neu’n annerbyniol.  Yn wyneb hyn, nid oedd yr Ombwdsmon ei berswadio bod yr ymddygiad yn debygol o fod wedi dwyn anfri ar swydd cynghorydd yr Aelod neu ei Awdurdod (gan dorri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad).

Cydnabu’r Ombwdsmon fod etholwr wedi gofyn i’r Aelod am help ac roedd wedi egluro ei fod yn ceisio helpu ei etholwr i wneud y sylwadau y cwynwyd yn eu cylch.  Nodwyd nad oedd yr Aelod wedi cael gwybodaeth y gofynnwyd iddo ei chadw’n gyfrinachol a gwnaed ei sylwadau fel rhan o ddadl wleidyddol.  O ystyried hyn, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cymryd camau ymchwiliol pellach er budd y cyhoedd.   Atgoffodd yr Ombwdsmon yr Aelod o’r angen i fod yn ystyriol wrth wneud sylwadau ar faterion sensitif mewn unrhyw gyfarfodydd cyngor yn y dyfodol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.