Dyddiad yr Adroddiad

24/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202402627

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Caerfyrddin (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy gefnogi ymddygiad Aelod arall (Cynghorydd A) yn gyhoeddus yr honnwyd iddo dorri’r Cod mewn digwyddiad etholiad cyhoeddus a thrwy fethu â delio ag ymddygiad yr Aelod hwnnw fel Arweinydd Grŵp wedi hynny.

Ystyriodd ymchwiliad a oedd ymddygiad yr Aelod yn gallu dwyn anfri ar y Cyngor neu rôl yr aelod, i fod yn awgrym o dorri’r Cod.

Cafwyd tystiolaeth gan y Cyngor, y tyst i ymddygiad Cynghorydd A, yr Aelod ac erthyglau yn y cyfryngau a oedd ar gael yn gyhoeddus.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd a’r esboniadau a ddarparwyd gan yr Aelod am ei weithredoedd, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i awgrymu bod ei weithredoedd wedi dwyn anfri ar y Cyngor neu rôl yr Aelod.

O dan Adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, canfu’r Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Cod.