Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Caerfyrddin (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) yn ystod digwyddiad etholiad cyhoeddus pan wnaeth yr hyn a adroddwyd fel cyfarchiad ffasgaidd a gyfeiriwyd at un o’r ymgeiswyr. Adroddwyd ar y mater yn y cyfryngau ac mewn erthyglau ar-lein yn y dyddiau dilynol.
Ystyriodd ymchwiliad a oedd ymddygiad yr Aelod yn gallu dwyn anfri ar y Cyngor neu rôl yr aelod, i fod yn awgrym o dorri’r Cod.
Cafwyd tystiolaeth gan y Cyngor, tystion yn y digwyddiad, yr Aelod ac erthyglau yn y cyfryngau a oedd ar gael yn gyhoeddus.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd a’r esboniadau a ddarparwyd gan yr Aelod am ei weithredoedd, penderfynodd yr Ombwdsmon, ar ôl pwyso a mesur, fod gweithredoedd yr Aelod yn ddifrifol eu natur a bod ganddynt y gallu i effeithio’n negyddol ar enw da’r Cyngor a rôl yr aelod ac yn debygol o fod wedi dwyn anfri ar ei swydd a’i awdurdod.
Fodd bynnag, gan ystyried gweithredoedd yr Aelod yn syth ar ôl y digwyddiad ac amgylchiadau ehangach gan gynnwys budd y cyhoedd, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.
O dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd angen gweithredu mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.