Dyddiad yr Adroddiad

10/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Tonyrefail

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202400913

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd aelod o’r cyhoedd (“yr Achwynydd”) bod Aelod o Gyngor Cymuned Tonyrefail, yn ystod sgwrs ffôn, wedi gwneud “sylw gwahaniaethol ar sail anabledd”.

Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 4(a) (cyfle cyfartal), 4(b) (parch ac ystyriaeth) a 6(1)(a) (anfri) o’r Cod Ymddygiad. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, yr Achwynydd a’r Aelod.

Gan ystyried dymuniadau’r Achwynydd a’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad, o dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd parhau â’r ymchwiliad er budd i’r cyhoedd. Felly, rhoddwyd gorau i’r ymchwiliad.