Dyddiad yr Adroddiad

10/10/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Mwmbwls

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202203558

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan aelod o’r cyhoedd bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned y Mwmbwls (“y Cyngor”) wedi eu cam-drin ar lafar ar gyfryngau cymdeithasol. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(b) – Rhaid i chi ddangos parch ac ystyriaeth at eraill.
  • 4(c) – Ni ddylech ddefnyddio ymddygiad bwlio nac aflonyddu ar unrhyw berson.
  • 6(1)(a) – Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy’n dwyn anfri ar eich swydd neu awdurdod.

Ystyriodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan y Cyngor. Darparodd tystion dystiolaeth tystion. Cafwyd copïau o’r sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol hefyd. Gwahoddwyd yr Aelod i gymryd rhan mewn cyfweliad fel rhan o’r ymchwiliad, ond dewisodd yr Aelod beidio â chymryd rhan.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd y Cod Ymddygiad yn gwbl berthnasol i’r sefyllfa y cwynwyd amdani. Felly, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y dystiolaeth yn awgrymu bod paragraffau 4(b) neu 4(c) o’r Cod Ymddygiad wedi’u torri. Canfu’r Ombwdsmon fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad hwn at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.

Daeth Panel Dyfarnu Cymru i’r casgliad, ar sail y canfyddiadau ffeithiol, nad oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.