Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Gwersyllt (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Honnwyd bod yr Aelod wedi bwlio a brawychu gweithiwr y Cyngor (“y Gweithiwr”) a bod ei ymddygiad wedi rhoi pwysau ar y Gweithiwr i ddatgelu gwybodaeth bersonol yn ystod cyfarfod o’r Cyngor.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymchwiliad yn briodol ac y dylid ystyried y paragraffau a ganlyn o’r Cod Ymddygiad (“y Cod”):
- 4(a) – rhaid i aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi sylw i’r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo’u rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd.
- 4(b) – rhaid i aelodau ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.
- 4(c) – rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn fel bwli neu harasio unrhyw berson.
- 6(1)(a) – rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu ar eu awdurdod.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion y cyfarfod perthnasol. Cafodd nifer o dystion eu cyfweld, gan gynnwys yr Achwynydd a’r Gweithiwr. Darparodd yr Aelod sylwadau hefyd.
Roedd y dystiolaeth yn awgrymu y bu trafodaeth llawn tensiwn a chadarn rhwng yr Aelod a’r Gweithiwr a bod y Gweithiwr wedi datgelu gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, nid oedd y dystiolaeth yn awgrymu, ar y cyfan, bod sylwadau neu agwedd yr Aelod mor ymfflamychol, amharchus neu eithriadol i fod yn achos o dorri unrhyw agwedd ar y Cod a ystyriwyd.
Felly, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd tystiolaeth o fethiant gan yr Aelod i gydymffurfio â’r Cod.