Derbyniodd swyddfa’r Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Bracala (“y Cyngor Cymuned”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi ceisio difrïo aelod arall (“yr Achwynydd”), yn faleisus ac yn fwriadol, yn ystod cyfarfod Cyngor Cymuned a fynychwyd gan gynghorwyr eraill ac aelodau’r cyhoedd.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:
- 4(b) – Rhaid i chi ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.
- 6(1)(a) – Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eich swydd neu ar eich awdurdod.
Cafwyd adroddiadau gan dystion. Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi cyhuddo’r Achwynydd o gamddefnyddio ei swydd fel Aelod Cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol yn ystod cyfarfod Cyngor Cymuned ac mewn sgwrs grŵp WhatsApp a oedd yn cynnwys aelodau’r Cyngor Cymuned.
Ystyriodd yr Ombwdsmon nad oedd sylwadau cyhuddiadol yr Aelod yn seiliedig ar ffaith a daeth i’r casgliad bod yr Aelod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth tuag at yr Achwynydd, gan dorri paragraff 4(b) o’r Cod.
Daethpwyd i’r casgliad hefyd y gallai rhai o sylwadau’r Aelod ddwyn anfri ar swydd neu awdurdod yr Aelod, am eu bod wedi cael eu gwneud mewn fforwm cyhoeddus, ac felly bod ymddygiad yr Aelod hefyd yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.
Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 4(b) o’r Cod. Penderfynodd y dylid gosod cerydd ar yr Aelod.