Dyddiad yr Adroddiad

12/18/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202200187

Canlyniad

Dim Angen Gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).  Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio ei safle fel aelod etholedig i aflonyddu ar aelod o’r cyhoedd mewn cysylltiad â datblygiad cynllunio.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri paragraffau 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod.  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor   Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld.  Cyfwelwyd â’r Aelod.  Cafwyd gwybodaeth gan yr Heddlu.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi gweithredu ar ran etholwr a phryderon a gafodd gan aelodau o’r cyhoedd.  Canfuwyd bod disgrifiad yr Aelod a’r Achwynydd o’r digwyddiadau yn sylweddol wahanol.  Canfu’r ymchwiliad fod diffyg tystiolaeth annibynnol i gyfrif am yr hyn ddigwyddodd.  Penderfynodd yr Heddlu nad oedd gweithredoedd yr Aelod yn gyfystyr ag aflonyddu ac nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.  Nid oedd yr Ombwdsmon wedi’i berswadio, ar bwysau’r dystiolaeth a oedd ar gael, fod tystiolaeth o dorri’r Cod gan yr Aelod.

Canfu’r ymchwiliad hefyd fod tystiolaeth gan dyst oddi wrth swyddogion y cyngor yn dangos ei bod yn ymddangos y bu ymddygiad yr Aelod yn unol â’r dull arferol a ddefnyddir gan aelodau etholedig lleol mewn perthynas â cheisiadau cynllunio a datblygiadau tir yn eu hetholaeth.

Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi ceisio arddel dylanwad gormodol ar adran y Cyngor na defnyddio ei safbwynt yn amhriodol.  Darparodd yr Aelod dystiolaeth hefyd i ddangos bod aelodau o’r cyhoedd wedi cysylltu ag ef i godi pryderon am y Safle a ysgogodd hynny i ymweld ar eu rhan ac ymchwilio i’r pryderon.

Felly, ar ôl pwyso a mesur y dystiolaeth a oedd ar gael, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod esboniad yr Aelod ei fod yn gweithredu fel yr aelod etholedig lleol ar ran ei etholwr, ac mai dyma’r agwedd y mae’n ei mabwysiadu gyda cheisiadau cynllunio yn ei ardal leol, yn ymddangos yn rhesymol.  Felly, ar ôl pwyso a mesur, ni chafodd ei berswadio bod tystiolaeth o dorri’r Cod.

Canfu’r Ombwdsmon o dan Adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 nad oedd tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Cod.