Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad pan gyhoeddodd wybodaeth wrth-Semitaidd ar gyfryngau cymdeithasol a dangos cefnogaeth i sefydliad terfysgol gwaharddedig.
Canfu’r Ombwdsmon fod sylwedd yr honiad yn droseddol ei natur. Penderfynwyd y dylid rhoi’r gorau i’r ymchwiliad, hyd nes y gwneir unrhyw atgyfeiriad i’r Heddlu.