Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Honnwyd bod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod mewn gohebiaeth e-bost at Swyddogion y Cyngor.
Ystyriodd ymchwiliad a oedd ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 4(b) o’r Cod. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Cafodd tystion, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld.
O ran y negeseuon ebost a anfonwyd gan yr Aelod, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod sylwadau’r Aelod, am Swyddogion o fewn Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor, yn amharchus ac yn anghymesur yn yr amgylchiadau. Canfu nad oedd sylwadau’r Aelod yn dangos parch ac ystyriaeth. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad hefyd fod sylwadau’r Aelod yn seiliedig ar yr hyn a gredai oedd yn dystiolaeth nad oedd proses gymedroli, mewn perthynas â negeseuon ebost, wedi’i gweithredu mewn ffordd niwtral, er bod hyn yn gred anghywir.
Felly, er y gellid ystyried sylwadau’r Aelod yn sarhaus yn bersonol, credodd yr Aelod ar gam fod Swyddogion y Cyngor wedi gweithredu mewn ffordd nad oedd yn niwtral yn wleidyddol. Wrth ystyried cyd-destun llawn y sgwrs a natur wleidyddol y digwyddiadau, canfu’r Ombwdsmon y byddai unrhyw sancsiwn am dorri’r Cod yn debygol o fod yn gyfystyr ag ymyrraeth anghymesur â hawl yr Aelod i ryddid mynegiant. Yng ngoleuni hyn, nid oedd yr Ombwdsmon wedi’i pherswadio, ar y cyfan, y byddai camau pellach yn gymesur er budd y cyhoedd nac yn cyfrannu at ailadeiladu perthnasoedd gwaith yn y dyfodol.
O dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd angen gweithredu mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.