Dyddiad yr Adroddiad

06/28/2023

Achos yn Erbyn

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202106025

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) wedi torri amodau Cod Ymddygiad yr Awdurdod (“y Cod”).  Honnwyd bod yr Aelod, yn ystod 2 gyfarfod penodol o’r Awdurdod, wedi methu â thrin aelod o staff, un o swyddogion yr Awdurdod, â pharch ac wedi defnyddio ymddygiad y gellid ei ystyried fel bwlio tuag ati.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri amodau paragraffau 4(b), 4(c), a 6(1)(a) o’r Cod.  Cafwyd gwybodaeth gan yr Awdurdod, gan gynnwys gohebiaeth a negeseuon ebost perthnasol.  Cafwyd recordiad fideo a thrawsgrifiad o gyfarfod perthnasol.  Cafwyd gwybodaeth gan dystion hefyd.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, o ran cyfarfod cyntaf yr Awdurdod, fod yr Aelod yn teimlo’n rhwystredig gyda’r ffordd y gweinyddwyd y cyfarfod.  Cymerodd yr Aelod ran mewn trafodaeth gadarn a mynegodd ei bryderon ynghylch gweinyddiaeth y cyfarfod.  Canfu’r Ombwdsmon fod beirniadaeth o’r fath o syniadau a safbwyntiau yn cael ei hystyried yn rhan o drafodaeth ddemocrataidd.  Roedd sylwadau’r Aelod yn wleidyddol eu natur ac felly’n cael mwy o warchodaeth o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.  Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod y gallai’r aelod o staff fod wedi cael ei siomi gan y feirniadaeth o’r ffordd yr ymdriniwyd â’r cyfarfod, ond nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tystiolaeth bod sylwadau’r Aelod yn bersonol nac yn dramgwyddus iawn.  Canfu’r Ombwdsmon ar sail y dystiolaeth ac, yn benodol, recordiad fideo’r cyfarfod cyntaf, nad oedd yr Aelod yn arbennig o nerthol nac ymosodol, er ei bod yn amlwg ei fod yn teimlo’n rhwystredig.   Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod sylwadau’r Aelod yn ddigon tramgwyddus, bygythiol neu sarhaus i fod yn gyfystyr â bwlio neu ymddygiad amharchus o fewn ystyr y Cod.  O ganlyniad, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i awgrymu bod amodau paragraffau 4(b) neu 4(c) o’r Cod wedi cael eu torri.

Mewn perthynas â’r ail gyfarfod, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod anghytundeb rhwng yr Aelod a’r aelod o staff ynghylch trefniadau gweithio a threfniadau llywodraethu’r Awdurdod.  Canfu’r Ombwdsmon, ar sail y dystiolaeth, fod sylwadau’r Aelod yn ystod yr ail gyfarfod yn sylwadau gwleidyddol am bolisïau a gweinyddiaeth yr Awdurdod.  Canfu’r Ombwdsmon fod sylwadau’r Aelod yn dod o fewn ffiniau rhyddid mynegiant ac nad oeddent yn ddigon tramgwyddus, bygythiol neu sarhaus i fod yn gyfystyr â bwlio neu ymddygiad amharchus o fewn ystyr y Cod.  O ganlyniad, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i awgrymu bod amodau paragraffau 4(b) neu 4(c) o’r Cod wedi cael eu torri.

Canfu’r Ombwdsmon, yng ngoleuni ei chanfyddiadau uchod, nad oedd tystiolaeth ychwaith i awgrymu bod yr Aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel Aelod nac ar ei Awdurdod.

Canfu’r Ombwdsmon, o dan adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nad oedd unrhyw dystiolaeth o fethu cydymffurfio â’r Cod.