Dyddiad yr Adroddiad

03/30/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Bae Colwyn

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202205087

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd aelod o’r cyhoedd am bostiad roedd Aelod wedi ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos llofrudd torfol yn dal arwydd yn hyrwyddo bargen ar bryd bwyd mewn archfarchnad. Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio ei lwyfan i wneud sylw gwleidyddol sarhaus. Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai ymchwiliad ystyried a allai’r Aelod fod wedi torri amodau paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad drwy ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod.

Canfu’r ymchwiliad fod y neges wedi tynnu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn erthyglau newyddion ar-lein. Roedd yr Aelod wedi ymddiheuro am unrhyw dramgwydd a achoswyd ac wedi dileu’r post yn syth, gan honni nad oedd yn gwybod pwy oedd yr unigolyn yn y llun a’i fod wedi bod yn ddefnydd gwallus o clipart ac yn gamgymeriad gwirioneddol. Ni ddarparodd yr achwynydd unrhyw wybodaeth bellach.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y byddai awgrymu cysylltiad rhwng y llofrudd torfol a’r fargen fwyd yn gymhariaeth ddybryd iawn, ac roedd y postiad a’r sylw dilynol yn y cyfryngau a oedd yn cyfeirio at rôl yr Aelod fel cynghorydd yn awgrymu bod amodau paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad wedi cael eu torri. Fodd bynnag, honnodd yr Aelod fod y cyswllt yn anfwriadol ac er bod yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd hygrededd i esboniad yr Aelod ynghylch sut y gwnaed y postiad, ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb ac ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth am ymddygiad tebyg gan yr achwynydd.

Roedd y postiad yn gwbl amhriodol. Fodd bynnag, o ystyried y diffyg ymgysylltu gan yr achwynydd, yr edifeirwch a fynegwyd gan yr Aelod, yr her o wrthbrofi ei esboniad, ei gydweithrediad â’r ymchwiliad, a’r ffaith fod y postiad wedi cael ei ddileu ar unwaith, penderfynwyd na fyddai ymchwiliad pellach yn rhywbeth a fyddai er budd y cyhoedd. Cafodd yr Aelod ei rybuddio i gymryd gofal wrth wneud postiadau cyhoeddus yn y dyfodol, a daeth yr ymchwiliad i ben.