Dyddiad yr Adroddiad

03/30/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202201203

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn hunanatgyfeiriad gan Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Caerfyrddin (“y Cyngor”) ei fod o bosib wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad.  Dywedodd yr Aelod fod aelodau eraill o’r Cyngor wedi ei glywed yn “rhegi” yn ystod sesiwn hyfforddi gan y cyngor.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri amodau paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o God Ymddygiad y Cyngor.  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys dolen at recordiad o sesiwn hyfforddi’r Cyngor.  Cyfwelwyd tystion.

Mewn sylwadau i’r Ombwdsmon, dywedodd yr Aelod ei fod wedi mynychu sesiwn hyfforddi’r Cyngor drwy Zoom a bod rhai wedi ei glywed yn “rhegi”.  Eglurodd yr Aelod ei fod yn swyddfa ei fusnes preifat pan gymerodd ran yn sesiwn hyfforddi’r Cyngor, nad oedd wedi sylweddoli bod ei feicroffon yn agored, ac yn ystod y sesiwn, cafodd sgwrs ag is‑gontractwr a defnyddiodd ‘ambell reg’.  Dywedodd yr Aelod fod y sylwadau wedi eu cyfeirio at ei is-gontractwr ac nad oeddent wedi eu hanelu at unrhyw aelod o’r Cyngor.  Ymddiheurodd am y digwyddiad a chynigiodd ymddiheuro i’r Cyngor llawn.

Canfu’r Ombwdsmon fod esboniad yr Aelod am ei sylwadau yn ymddangos yn gredadwy.  Er bod yr iaith a ddefnyddiodd yn dilyn ei drafodaeth breifat â’i is-gontractwr yn amharchus, roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn awgrymu mai sgwrs breifat oedd hon, ac felly ni chafodd ei darbwyllo bod digon o dystiolaeth i awgrymu bod amodau paragraff 4(b) o’r Cod wedi ei dorri.

Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod sylwadau cwbl amhriodol yr Aelod yn cael eu clywed gan aelodau’r Cyngor, swyddogion y Cyngor a oedd yn darparu’r hyfforddiant a’u bod hefyd wedi denu diddordeb sylweddol yn y cyfryngau ac wedi cael eu hadrodd yn eang yn y wasg.  Penderfynodd yr Ombwdsmon, o ganlyniad i’r cyhoeddusrwydd anffafriol a oedd yn adrodd ar ymddygiad yr Aelod yn ystod sesiwn hyfforddi’r cyngor, fod sylwadau’r Aelod yn rhai y gellid yn rhesymol eu hystyried fel rhai a oedd wedi dwyn anfri ar y Cyngor ac ar swydd yr Aelod.  O’r herwydd, canfu’r Ombwdsmon bod sylwadau’r Aelod yn awgrymu bod amodau paragraff 6(1)(a) o’r Cod wedi cael eu torri.

Yn wyneb cydnabyddiaeth yr Aelod o natur amhriodol ei weithredoedd a’i edifeirwch, ei hunanatgyfeiriad prydlon i’r Ombwdsmon a’i barodrwydd a’i awydd i ymddiheuro i’r Cyngor, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd er budd y cyhoedd i gamau pellach gael eu cymryd.  Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon, oni bai am weithred ac ymddiheuriad yr aelod, y byddai ymddygiad o’r math hwn wedi croesi trothwy’r Ombwdsmon ar gyfer cyfeirio at y Pwyllgor Safonau.  Dywedwyd wrth yr Aelod y dylai ymddiheuro’n gyhoeddus i’r Cyngor yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.

O dan adran 69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000, canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen gweithredu yng nghyswllt y materion oedd yn destun yr ymchwiliad.