Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned y Mwmbwls

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202106524/202106588

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon 2 gŵyn gan Gadeirydd Cyngor Cymuned y Mwmbwls ar y pryd (“y Cyngor”) fod Cyn Gynghorydd wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor.  Honnwyd bod y Cyn Gynghorydd wedi cyflwyno cyfres o gwynion blinderus i’m swyddfa a oedd wedi’u targedu yn erbyn grŵp bach o aelodau’r Cyngor.  Honnwyd ymhellach bod y Cyn Gynghorydd wedi recordio sesiwn gyfrinachol o gyfarfod o’r Cyngor yn gudd ac wedi cynnig chwarae’r recordiad i aelod o’r cyhoedd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyn Gynghorydd wedi gwneud 9 cwyn am aelodau’r Cyngor i’w swyddfa mewn 7 mis.  Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod unrhyw un o’r cwynion yn deilwng, bod rhai yn wacsaw tra bod eraill yn faleisus a/neu’n flinderus, a allai fod yn gyfystyr â thorri paragraff 6(1)(d) o God Ymddygiad y Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyn Gynghorydd wedi recordio sesiwn gyfrinachol o gyfarfod o’r Cyngor ond daeth i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu bod y Cyn Gynghorydd wedi rhannu’r recordiad ag aelod o’r cyhoedd.  Fodd bynnag, roedd y Cyn Gynghorydd wedi anfon neges at aelod o’r cyhoedd ac wedi cynnig chwarae’r recordiad iddo, a allai fod wedi dwyn anfri ar ei swydd a’r Cyngor, gan awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o God Ymddygiad y Cyngor.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai ymddygiad y Cyn Gynghorydd fod yn gyfystyr â thorri paragraffau 6(1)(a) a 6(1)(d) o God Ymddygiad y Cyngor a chyfeiriodd ei hadroddiad at Swyddog Monitro Cyngor Abertawe i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod y Cyn Gynghorydd wedi torri paragraffau 6(1)(a) a 6(1)(d) o’r Cod Ymddygiad.  Penderfynodd geryddu’r Cyn Gynghorydd a nododd, petai’r Cyn Gynghorydd wedi parhau’n aelod o’r Cyngor, y byddai wedi atal y Cyn Gynghorydd am 6 mis.