Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn-aelod (“y Cyn-aelod”) o Gyngor Tref Prestatyn (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi ymddwyn yn amhriodol at yr Achwynydd.
Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 4(a) (cyfle cyfartal), 4(b) (parch ac ystyriaeth), 4(c) (aflonyddu) a 6(1)(a) (anfri) o’r Cod Ymddygiad. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Darparodd yr Achwynydd dystiolaeth hefyd.
Gan ystyried dymuniadau’r Achwynydd a’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad, o dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd. Felly, daethpwyd â’r ymchwiliad i ben.