Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Honnwyd bod yr Aelod wedi datgelu rhywfaint o wybodaeth gyfrinachol am yr Achwynydd i’w chymdogion pan oedd wedi bod yn ceisio datrys eu pryderon.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys negeseuon e-bost perthnasol a gyfnewidiwyd adeg y digwyddiadau, a chafwyd gwybodaeth gan yr Heddlu hefyd.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd, penderfynodd yr Ombwdsmon fod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu bod y gofyniad a nodir ym Mharagraff 5(a) o’r Cod wedi’i dorri, sy’n datgan na ddylai cynghorwyr ddatgelu gwybodaeth y dylid yn rhesymol ystyried ei bod o natur gyfrinachol, heb gydsyniad datganedig person sydd wedi’i awdurdodi i roi cydsyniad o’r fath.
Fodd bynnag, gan ystyried bod yr Aelod wedi ymddiheuro’n ddiffuant ac ar unwaith; gan gydnabod na ddylai fod wedi datgelu gwybodaeth a rhoi sicrwydd na fyddai’r un peth yn digwydd eto, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach. Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi derbyn, ac wedi myfyrio ar, ei gyfraniad at drallod yr Achwynydd, ac roedd wedi ymddiheuro amdano.
O dan Adran 69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oes angen cymryd camau pellach mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.