Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Brychdyn (“y Cyngor Cymuned”) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Honnwyd bod yr Aelod, yn ystod 2 gyfarfod o’r Cyngor Cymuned yn 2024, wedi cyhuddo’r Cyngor Cymuned a’i aelodau o fod yn llwgr, ynghylch y ffordd yr oedd wedi dyfarnu contract torri glaswellt.
Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 4(b) (parch ac ystyriaeth) a 6(1)(b) (anfri) o’r Cod.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor Cymuned a’r Cyngor, gan gynnwys copi o adroddiad Archwilio Cymru / barn archwilio ar Ddatganiad Blynyddol 2023/24 y Cyngor Cymuned. Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld. Cafodd yr Aelod ei gyfweld hefyd a darparodd ddatganiad ychwanegol.
Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi cyhuddo’r Cyngor Cymuned mewn cyfarfod cyhoeddus o fod yn ‘llwgr’. Dywedodd yr Aelod fod ei defnydd o’r gair wedi bod yn berthnasol i brosesau a gweithdrefnau’r Cyngor Cymuned wrth ddyfarnu’r contract. Yn ogystal, nododd fod Archwilio Cymru wedi bod yn feirniadol o broses y Cyngor Cymuned mewn perthynas â’r mater. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y Cyngor Cymuned wedi mynd i’r afael â phryderon yr Aelod yn ystod y cyfarfod, ni fyddai’r Aelod wedi bod yn ymwybodol o adroddiad Archwilio Cymru ar adeg ei sylwadau, ac ymddengys ei bod wedi gwneud ei sylwadau gyda’r cynigwyr unigol mewn golwg, yn hytrach na’r broses neu’r penderfyniad ei hun.
Penderfynodd yr Ombwdsmon bod sylwadau’r Aelod yn awgrymu bod paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod wedi’u torri ond y byddai amddiffyniad helaethach o dan Erthygl 10 hefyd yn berthnasol, gan eu bod yn ymwneud â materion sy’n ymwneud â busnes y cyngor, nad oeddent wedi’u cyfeirio at un person penodol, ac nad oedd tystiolaeth i awgrymu unrhyw sylw yn y cyfryngau, cylchrediad ehangach nac effaith y digwyddiad ar unigolion na’r Cyngor ei hun. Yn ogystal, roedd yr esboniadau a roddwyd i’r Aelod am benderfyniad y Cyngor wedi’u nodi’n glir er mwyn i unrhyw arsylwr gwrthrychol eu deall.
Felly, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn gymesur nac er budd y cyhoedd i unrhyw gamau pellach gael eu cymryd mewn perthynas â’r mater hwn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Aelod gael hyfforddiant pellach ar derfynau ei rhyddid mynegiant pan fydd honiadau heb sail neu dystiolaeth ategol yn cael eu gwneud, er mwyn diogelu hawliau ac enw da pobl eraill.