Dyddiad yr Adroddiad

08/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gweithdrefnau recriwtio a phenodi

Cyfeirnod Achos

202502399

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi tynnu’r cynnig am le ar raglen hyfforddi yn ôl oherwydd na allai ariannu’r Dystysgrif Nawdd yr oedd ei hangen ar Mr C.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr hysbyseb a’r pecyn recriwtio wedi egluro nad oedd nawdd ar gael ar gyfer y swydd, a oedd yn groes i bolisi recriwtio’r Bwrdd Iechyd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr C o fewn 1 mis i ymddiheuro am beidio â’i gwneud yn glir nad oedd nawdd ar gael, a chynnig iawndal ariannol o £500 i gydnabod yr amser a’r drafferth o wneud cais am y swydd a’r siom o gael y cynnig wedi’i dynnu’n ôl. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i adolygu’r hyfforddiant a’r cyngor a ddarparwyd i reolwyr recriwtio o fewn 3 mis.