Dyddiad yr Adroddiad

04/13/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202207792

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynglŷn â’r modd y rhyddhawyd ei diweddar fam o’r ysbyty ym mis Gorffennaf 2021. Dywedodd fod oedi hir gan y Bwrdd Iechyd cyn ymateb i’w chwyn ac na chafwyd eglurhad ynghylch yr oedi cyn cael ambiwlans. Yn ogystal â hyn, dywedodd nad oedd unrhyw gamau wedi eu gweithredu i wneud iawn am y methiannau a nodwyd gan y Bwrdd Iechyd, a bod ymddiheuriad ar ei ben ei hun yn annigonol.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd tua 11 mis i ymateb i gŵyn Mrs A, ac na roddwyd eglurhad iddi am yr oedi. O ran ymateb y gwasanaeth ambiwlans, er bod y Bwrdd Iechyd wedi’i restru fel atodiad i’r ymateb i’w chwyn, mae’n ymddangos efallai na chafodd ei anfon at Mrs A. Yn olaf, er i ymateb y Bwrdd Iechyd gynnig sawl ymddiheuriad i Mrs A, nid oedd yn cynnwys manylion am unrhyw gamau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd i atal y methiannau a nodwyd rhag digwydd i glaf arall.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Mrs A, cytunodd i roi copi o’r ymateb i’w chwyn gan y gwasanaeth ambiwlans, rhoi esboniad iddi am ei amser hir cyn ymateb i’w chŵyn a chynnig taliad ariannol o £250 i wneud iawn a chydnabod yr oedi, a rhoi manylion i’r Ombwdsmon a Mrs A am unrhyw gamau adferol sydd eisoes wedi’u cymryd, neu y bwriedir eu cymryd, er mwyn atal y methiannau a nodwyd rhag digwydd eto.