Dyddiad yr Adroddiad

02/05/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202203700

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mrs Z am y driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr, Mr Z, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”). Cwynodd Mrs Z y dylid fod wedi ail-dderbyn Mr Z i Ysbyty Treforys cyn 22 Tachwedd 2020 ac y byddai cael ei dderbyn a’i drin yn yr ysbyty’n gynharach, wedi newid ei ganlyniad yn sylweddol.

Ni chanfu’r ymchwiliad unrhyw dystiolaeth y byddai cael ei dderbyn i’r ysbyty yn gynharach wedi newid y canlyniad i Mr Z. Canfuwyd nad oedd methiant y Bwrdd Iechyd i weithredu atgyfeiriad i dderbyn Mr Z fel claf mewnol ar 16 Tachwedd 2020 wedi cael effaith andwyol arno. Roedd y clwyf ar ei goes yn ymateb i’r gwrthfiotigau drwy’r geg a roddwyd iddo ar yr adeg honno ac nid oedd ei ddirywiad dilynol a’i dderbyn yn ôl i’r ysbyty ar 22 Tachwedd oherwydd hyn. Ar sail hyn, ni chadarnhawyd y gŵyn.