Dyddiad yr Adroddiad

09/05/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202201652

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr C am y gofal a gafodd ei ddiweddar dad, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) pan gafodd Mr A ei ryddhau o Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr Ysbyty”) ar 8 Rhagfyr 2021. Roedd yn pryderu a ddeliwyd yn briodol â rhyddhau Mr A o’r Ysbyty ac a wnaed hynny’n unol â chanllawiau perthnasol, a hefyd ynghylch y ffordd y deliwyd â’i gŵyn.

Canfu’r ymchwiliad yr ymdriniwyd yn briodol â rhyddhau Mr A o’r Ysbyty, felly ni chadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn. Fodd bynnag, roedd elfen o’r broses delio â chwynion (o ran cais yn ymwneud â lluniau teledu cylch cyfyng) yn is na’r safon briodol. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o’r gŵyn yn rhannol ac argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr C am y methiant a nodwyd, y dylai gynnig taliad o £375 iddo i gydnabod yr anghywirdeb o ran y lluniau teledu cylch cyfyng, ac y dylai ddwyn yr adroddiad i sylw’r staff trin cwynion perthnasol a’u hatgoffa o bwysigrwydd cywirdeb a bod yn dryloyw.