Cwynodd Mr A nad oedd y Panel Apêl Derbyniadau wedi ystyried amgylchiadau eithriadol y teulu pan wrthododd apêl ei ferch.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Panel wedi camddeall darn allweddol o wybodaeth a oedd wedi dylanwadu’n gryf ar ei benderfyniad i wrthod yr apêl. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Panel i ail-ystyried yr apêl mewn gwrandawiad newydd, cyn dechrau’r tymor newydd.