Dyddiad yr Adroddiad

30/05/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202409390

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mr A gwyno bod practis meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Practis”) wedi methu ag ymateb i’w gais am apwyntiad a archebwyd ymlaen llaw drwy lythyr, a bod hyn wedi peri oedi o ran darparu gofal a thriniaeth. Dywedodd Mr A fod y camau a gymerwyd gan y Practis yn groes i’r wybodaeth ar ei wefan, a bod penderfyniadau’r Practis o ran ei geisiadau yn anghywir.
Penderfynodd yr Ombwdsmon na fu i’r Practis gadarnhau pam yr oedd Mr A yn gofyn am apwyntiadau y gellir eu harchebu ymlaen llaw, a’i fod wedi gwrthod ei gais heb yr wybodaeth hon. Nid oedd y Practis wedi esbonio’r rheswm dros ei benderfyniad yn glir, ac roedd hyn wedi peri rhwystredigaeth i Mr A am ei bod yn ymddangos bod y penderfyniad hwnnw yn groes i’r wybodaeth ar wefan y Practis, rhywbeth a barodd yn y pen draw i’r berthynas broffesiynol chwalu. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis gytuno i fynd ati cyn pen pythefnos i ymddiheuro i Mr A am na fu iddo gadarnhau’r rheswm dros ei gais ac am wneud penderfyniad heb yr wybodaeth hon, i ymddiheuro am na fu iddo esbonio’n glir y rhesymau dros ei benderfyniad a sut yr oedd yn ymddangos ei fod yn groes i’r wybodaeth ar ei wefan. Cytunodd y Practis i wneud y pethau hyn. Cytunodd y Practis hefyd i fynd ati cyn pen mis i adolygu ei weithdrefnau o ran ceisiadau cleifion am addasiadau i sicrhau bod pob opsiwn yn cael ei ystyried a bod rhesymau clir yn cael eu cofnodi a’u mynegi wrth y claf, ac i ofyn i Dîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Gofal Sylfaenol y Bwrdd Iechyd i ystyried y modd y mae’r Practis yn mynd i’r afael ag apwyntiadau y gellir eu harchebu ymlaen llaw i sicrhau ei fod yn ymdrin yn briodol ag anghenion a gofynion cleifion o ran hygyrchedd.