Dyddiad yr Adroddiad

08/24/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202303012

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S, er iddi gwyno am y driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Tachwedd 2022, nad oedd wedi cael ymateb.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gweithredu yn unol â’i drefn gwyno statudol a’i fod wedi methu â diweddaru Mrs S ynglŷn â’i ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs S am yr oedi, cyhoeddi ymateb i’r gŵyn, a rhoi diweddariad iddi ynghylch triniaeth o fewn 30 diwrnod gwaith.