Dyddiad yr Adroddiad

26/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202407137

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am fethiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) i roi apwyntiadau clinig Offthalmoleg amserol i’w mam er mwyn trin clefyd ar ei llygaid sy’n gysylltiedig ag oedran.

Er bod y Bwrdd Iechyd yn ei ymateb i’r gŵyn wedi rhoi esboniad am amseriad apwyntiadau a’i fod hefyd wedi cyfeirio at ganllawiau cenedlaethol yn y maes hwn, nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd wedi egluro’r llwybr clinigol i’w ddilyn a’r manylion cyswllt i’w defnyddio gan fam Mrs A pe bai iechyd ei llygaid yn dirywio. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at fam Mrs A am hyn. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Mrs A a’i mam nad oedd hyn wedi’i wneud yn glir yn flaenorol.