Cwynodd Ms B, gyda chymorth Eiriolydd Cwynion, am safon y gofal a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd yn yr Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar (“EPAU”) ar 21 Mawrth 2023 yn glinigol briodol, ac a oedd y gofal a ddarparwyd gan y Tîm Bydwragedd Cymunedol dilynol (“CMT”) yn glinigol briodol.
Canfu’r Ombwdsmon y dylai Ms B fod wedi cael ei hadolygu gan yr obstetrydd a oedd yn bresennol pan aeth i’r EPAU ar 21 Mawrth. Dylai progesteron fod wedi’i ragnodi i Ms B (hormon a all leihau’r risg o gamesgoriad ymhlith menywod sy’n cael gwaedu yn ystod beichiogrwydd cynnar, a’r rhai sydd wedi profi o leiaf un camesgoriad) gan fod ei beichiogrwydd yn “risg uchel”, o ystyried ei cholled beichiogrwydd hwyr yn y gorffennol. Ni chafodd Ms B ofal gan y CMT; pan ffoniodd 2 waith i drefnu apwyntiad ar gyfer ei gofal, gwrthodwyd apwyntiad iddi oherwydd ei bod yn bwriadu symud allan o’r ardal. Dylai Ms B fod wedi gallu archebu lle ar gyfer gofal tra roedd yn byw yn ardal y Bwrdd Iechyd, ac roedd ganddi hawl i gael sicrwydd a gofal gan fydwragedd ar adeg bryderus yn ystod ei beichiogrwydd. Dylai Ms B fod wedi cael ei hatgyfeirio at obstetrydd ymgynghorol, fel ei bod ar y llwybr clinigol priodol ar gyfer asesiad rheolaidd a sgrinio pellach mewn modd mwy amserol yn ystod yr wythnosau dilynol. Yn ogystal, nid oedd y Bwrdd Iechyd yn gallu darparu cofnodion o’r galwadau ffôn, a oedd yn gyfystyr â chamweinyddu.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon ddwy ran y gŵyn, a gwnaeth argymhellion ar gyfer ymddiheuriad, iawn ariannol, nodyn atgoffa i’r Tîm Rheoli Corfforaethol ynghylch cynnig apwyntiadau, ac adolygiad o drefniadau cadw cofnodion y CMT.