Dyddiad yr Adroddiad

21/05/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202500065

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mrs X gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’w chwyn.

Canfu’r Ombwdsmon y cafwyd oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i gŵyn Mrs X. Dywedodd fod hyn wedi peri anghyfleuster a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i ddarparu i Mrs X cyn pen 10 diwrnod ymateb i’w chwyn a fydd hefyd yn cynnwys ymddiheuriad am yr oedi ac yn esbonio pam y digwyddodd hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau hyn.