Dyddiad yr Adroddiad

18/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202502465

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss G bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu mynd i’r afael ag un agwedd o’i chwyn, mewn cysylltiad â materion o gysylltu â nhw, a wnaed ym mis Mehefin 2025.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu mynd i’r afael â’r agwedd hon o’i chwyn. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss G. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss G, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro am fethu â mynd i’r afael â’r agwedd hon a darparu gwybodaeth gyswllt person y gallai siarad gyda nhw.