Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202200764

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a gafodd gan y Bwrdd Iechyd, yn enwedig bod yn rhaid iddi aros yn annerbyniol o hir am lawdriniaeth orthopedig wrth ystyried ei hangen clinigol, a’r effaith yr oedd ei chyflwr yn ei chael ar ei bywyd bob dydd. Cwynodd hefyd y dylai adolygiad o’i chyflwr fod wedi digwydd yn gynt, felly gellid bod wedi ystyried unrhyw ddirywiad wrth bennu ei blaenoriaeth ar gyfer llawdriniaeth.

Canfu’r ymchwiliad ddiffygion sylweddol yn y modd y mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau orthopedig, a achosodd anghyfiawnder i Mrs A, oherwydd yr amser y bu’n aros am ei thriniaeth a’r boen a’r anhwylustod a gafodd. Felly, cafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad hefyd, er bod y pelydr-x a drefnwyd i ailasesu categori Mrs A ar gyfer llawdriniaeth wedi digwydd y tu allan i’r cyfnod targed o 8 wythnos, nid oedd hyn yn afresymol, o ystyried bod y cyfnod amser yn cynnwys gwyliau’r Nadolig a chyfyngiadau COVID-19, a oedd wedi cyfrannu at yr oedi. Ni chadarnhawyd yr ail agwedd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs A am y methiant o ran gwasanaeth a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Cytunodd hefyd i dalu £500 i Mrs A i gydnabod yr anghyfiawnder a’r trallod a achoswyd iddi gan ei fethiant i ymchwilio i atebion i’w sefyllfa hysbys o ran rhestrau aros yn gynt, ac am ei hamser a’i thrafferth wrth fwrw ymlaen â’r gŵyn hon.