Dyddiad yr Adroddiad

07/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202503382

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am yr amser a gymerodd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymateb i gŵyn a wnaeth iddo am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam, Ms B.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod ymateb i gŵyn wedi’i gyhoeddi, fod hyn wedi cymryd amser hir er gwaethaf i eiriolwr Ms A fynd ar drywydd yr ymateb. Roedd hyn wedi achosi mwy o ofid i Ms A a’i mam. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n gwneud taliad iawndal o £125 o fewn mis i gydnabod y gofid a achoswyd.