Dyddiad yr Adroddiad

01/24/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202305250

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod rhybuddio cleifion a atgyfeiriwyd i’r clinig Therapi Anhawster Codiad ymlaen llaw y byddai disgwyl iddynt gael eu harchwilio a’u cynghori gan glinigwyr benywol. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi cuddio’r ffaith y byddai’r clinigwr yn fenyw drwy anfon llythyrau apwyntiad a oedd yn cyfeirio at glinig yn unig, yn wahanol i ddisgyblaethau eraill a fyddai’n cynnwys enw (ac felly rhywedd) y clinigwr y byddent yn ei weld. Dywedodd Mr A fod yr archwiliad wedi achosi cywilydd ac embaras difrifol iddo. Dywedodd Mr A fod canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y caiff claf ofyn am i unigolyn o’r un rhywedd gynnal archwiliad o’r fath, ond nad oedd yn bosibl gwneud cais o’r fath heb rybudd ymlaen llaw.

Roedd yr asesiad yn pryderu y dylai cleifion gael gwybod yn briodol am rywedd y clinigwyr a fyddai’n cynnal clinig a allai fod yn sensitif o ran rhywedd. Yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio i’r gŵyn hon, cytunodd y Bwrdd Iechyd ar gais gan yr Ombwdsmon i gymryd y cam canlynol i ddatrys y gŵyn:

• Cytunodd y Bwrdd Iechyd i addasu templed llythyrau apwyntiad y clinig Therapi Anhawster Codiad i gynnwys enw’r clinigwr a fyddai’n cynnal y clinig a gwybodaeth am y ffaith mai benywod sy’n arwain y gwasanaeth, a rhoi gwybod i’r claf y gall gysylltu â’r Adran Wroleg am gymorth pe bai hynny’n peri pryder iddynt.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y newidiadau hyn o fewn 1 mis.