Dyddiad yr Adroddiad

03/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202505780

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A nad oedd yr amser yr oedd wedi aros ar restr aros GIG Lloegr am lawdriniaeth ar y pen-glin wedi’i drosglwyddo i’r rhestr gyfwerth yng Nghymru.

Yn yr asesiad, canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Miss A yn egluro’n ddigonol y polisïau a’r gweithdrefnau y tu ôl i’w throsglwyddo rhwng y ddwy restr aros.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos i’r llythyr penderfyniad, i ddarparu ymateb pellach i’r materion a godwyd gan yr Achwynydd sy’n mynd i’r afael â’r trosglwyddo rhwng rhestrau aros.