Bu i Mrs L gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi trefnu apwyntiad yn y clinig anghywir ac wedi methu ag ystyried ei chais am iddo ad-dalu’r treuliau a dalwyd o’i phoced ei hun.
Er bod y Bwrdd Iechyd wedi cyfaddef iddo anfon Mrs L i’r clinig anghywir drwy amryfusedd ac wedi ymddiheuro iddi, canfu’r Ombwdsmon ei fod wedi methu ag ystyried ei chais am iddo ad-dalu ei threuliau ac wedi methu ag ymateb i’r cais hwnnw. Dywedodd fod hyn wedi peri rhwystredigaeth i Mrs L a phenderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwilio’n ffurfiol iddi.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i fynd ati cyn pen pedair wythnos i ymddiheuro i Mrs L am fethu ag ymateb i’w chais i gael ad-daliad, ac i gynnig ad-dalu’r treuliau a dalwyd ganddi o’i phoced ei hun, sef cyfanswm o £24.50. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau hyn.