Dyddiad yr Adroddiad

02/01/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202301069

Canlyniad

Adroddiad Diddordeb cyhoeddus

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu cynnig ei thriniaeth gyda’r cyffur fampridine ar ôl iddo gael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio gan y GIG yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2019. Gall fampridine helpu rhai cleifion sydd â sglerosis ymledol.

Fe wnes i gadarnhau’r gŵyn.

Canfu fy ymchwiliad, er bod fampridine wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer defnydd a ariennir gan y GIG yng Nghymru yng 2019, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi trefniadau ar waith o hyd i gynnig fampridine i unrhyw gleifion cymwys yn ei ardal. Yn fy marn i, roedd hyn yn golygu camweinyddu a oedd wedi arwain at anghyfiawnder parhaus i Mrs X. Mae hi’n dal yn ansicr ynghylch pryd gaiff hi afael ar y feddyginiaeth hon a allai wella ei bywyd neu os bydd yn cael gafael arni.

Argymhellais y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs X, a rhoi cynllun gweithredu ar waith, gydag amserlenni a goruchwyliaeth gan y bwrdd, i sicrhau bod y broses o gyflwyno fampridine yn cael ei rhoi ar waith yn brydlon.