Dyddiad yr Adroddiad

12/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202505683

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ynghylch yr effaith a gafodd newid polisi arni.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn uniongyrchol i Mrs A ac nad oedd wedi mynd i’r afael â phob mater a gododd. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs A oherwydd bod cwestiynau heb eu hateb a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb i gŵyn Mrs A, gan wneud sylwadau ar bob un o’r materion a gododd, o fewn 4 wythnos.