Dyddiad yr Adroddiad

09/04/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Gweinyddu Budd-daliadau

Cyfeirnod Achos

202303449

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S ei bod wedi bod yn codi pryderon â Chyngor Sir Ynys Môn ers 2020 ac nad oedd wedi cael ymateb digonol i’w chwyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi gweithredu yn unol â’i weithdrefn gwynion statudol a’i fod wedi methu darparu diweddariadau digonol i Mrs S. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael cytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs S am yr oedi, i gyflwyno ymateb i’r gŵyn, ac i roi taliad o £50 iddi fel cydnabyddiaeth o’i hamser a’i thrafferth o fewn 30 diwrnod gwaith.