Cwynodd Mrs A, ar ran ei merch, am adran Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”). Roedd ei merch wedi derbyn cais am daliad tuag at gostau gofal, ond nid oedd wedi cael unrhyw lythyr nac eglurhad ynglŷn â’r taliadau, na’r angen i gyfrannu.
Canfu’r Ombwdsmon fod hwn yn hen fater, yr oedd Mrs A wedi’i ddwyn i sylw’r Cyngor ym mis Rhagfyr 2024. Er bod ei gohebiaeth wedi cael ei hystyried fel cwyn bryd hynny, ni allai’r Cyngor ddangos tystiolaeth bod ymateb wedi’i roi. Roedd y Cyngor wedi ystyried y gŵyn dan ei bolisi cwynion ei hun, yn hytrach na Gweithdrefn Gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd hyn wedi achosi straen sylweddol i Mrs A a’i merch. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Cyngor, cyn pen 4 wythnos, i ysgrifennu at Mrs A i ymddiheuro am y methiant i ymateb yn ffurfiol i’w phryderon, ymchwilio i’w chŵyn a chyflwyno ymateb ffurfiol i gŵyn dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru).