Dyddiad yr Adroddiad

25/09/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202503627

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi mynd i’r afael yn briodol â’i gŵyn mewn perthynas â methiant cyfathrebu, lle’r oedd staff y gwasanaethau i oedolion agored i niwed yn cyfarwyddo’r cyhoedd i ddefnyddio system galw’n ôl na all gysylltu’r galwr yn ôl â nhw.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cam-ddiffinio cwyn Mr A drwy ystyried ei bod yn dod o dan y categori materion nad ydynt yn cael eu hystyried yn gŵyn, sy’n golygu na chafodd ymateb ysgrifenedig priodol a oedd yn mynd i’r afael â’i bryderon. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac oedi diangen i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr A o fewn 10 diwrnod gwaith a chynnig ymddiheuriad am gam-ddiffinio ei gŵyn, sydd wedi arwain at oedi cyn mynd i’r afael â’i bryderon. Cytunodd y Cyngor hefyd i ysgrifennu llythyr dilynol at Mr A o fewn 20 diwrnod gwaith, yn amlinellu pa gamau a gymerir i fynd i’r afael â’r problemau cyfathrebu a godwyd a pha broses a ddefnyddir yn y dyfodol i sicrhau y gall defnyddwyr gwasanaeth gysylltu’n hawdd â’r swyddog perthnasol.