Dyddiad yr Adroddiad

05/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202408040

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C nad oedd Cyngor Caerdydd wedi cymryd camau i ddiogelu Mr A, sy’n oedolyn anabl, pan gafodd ei adael ar ei ben ei hun gan ddarparwr gwasanaeth annibynnol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cydnabod nac ymddiheuro’n ddigonol am y diffyg eglurder yn ei ohebiaeth â Mrs C ynghylch y pryderon diogelu ac nad oedd wedi rhoi gwybod iddi am ganlyniad ei ymholiadau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mrs C o fewn pythefnos i egluro ac ymddiheuro am ei gyfathrebu ynghylch y pryderon diogelu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad ei ymholiadau.