Dyddiad yr Adroddiad

08/14/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202303100

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr K nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi’r cymorth priodol iddo i ddiwallu ei anghenion.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod Mr K wedi cyflwyno cwyn i’r Cyngor, mai dim ond ymateb rhannol a gafodd i’w bryderon ym mis Tachwedd 2022. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad i Mr K ac eglurhad am yr oedi cyn ymateb i’w bryderon, darparu ymateb i’r gŵyn sy’n cynnwys manylion ar sut i uwchgyfeirio ei bryderon os yw’n dal yn anfodlon o fewn 30 diwrnod gwaith.