Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202303562

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S nad oedd ei chwyn wedi’i thrin yn broffesiynol a’i bod o’r farn bod ei phryderon wedi’u diystyru.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal cyfarfod gyda Mrs S i drafod ei phryderon, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu yn unol â’u gweithdrefn gwyno statudol nac wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad i Mrs S am yr oedi sylweddol, cyhoeddi ymateb i’w chwyn, a chynnig taliad amser a thrafferth o £150 iddi o fewn 6 wythnos.