Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Benfro

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202207939

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y gofal a roddwyd i’w diweddar nain tra oedd mewn cartref nyrsio, a ariennir gan y Cyngor, rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022. Cododd Miss A bryderon ynghylch diogelwch y cartref, y gweithiwr cymdeithasol a’r Cyngor mewn perthynas â hylendid, goruchwyliaeth a chadw cofnodion. Dywedodd Miss A nad oedd y Cyngor yn darparu cefnogaeth ddigonol. Roedd Miss A yn anfodlon gyda chanlyniad yr adolygiad diogelu a’r wybodaeth a gafodd ei hystyried yn ei gyfarfod strategol. Cwynodd Miss A ymhellach am y ffordd y deliodd y Cyngor â’i chwyn.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod cyfathrebu annigonol o ran y prosesau cwyno a diogelu a bod oedi cyn delio â’r gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon, o fewn 10 diwrnod gwaith, i nodi a phenodi Ymchwilydd Annibynnol i gynnal ymchwiliad Cam 2 i ystyried yr holl gwynion a rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A am beidio â darparu gwybodaeth glir am y camau nesaf ar ôl i’r ymchwiliad diogelu ddod i ben, ac am yr oedi wrth benodi ymchwilydd yn y cam cwyno anffurfiol ac anfon ymateb i’r gŵyn.