Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Gwasanaethau i bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202304391

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss K am Gyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) a ph’un ai oedd cyfarfod strategaeth ddiogelu (“y Cyfarfod Strategaeth”) wedi ystyried yn ddigonol y pryderon a godwyd am y gofal a ddarparwyd i’w nain, Mrs L, a digonolrwydd gwaith monitro’r Cyngor ar y cartref nyrsio (“y Cartref Nyrsio”).
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Cyfarfod Strategaeth wedi dilyn canllawiau cenedlaethol priodol ac wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i’r pryderon a godwyd ynglŷn â’r gofal a ddarparwyd i Mrs L a’r ffordd y mae’r Cyngor yn monitro’r Cartref Nyrsio.
Er nad oedd sail i’r honiad a ystyriwyd gan y Cyfarfod Strategaeth, nodwyd rhai diffygion, a rhoddwyd cynllun gweithredu priodol ar waith i fynd i’r afael â’r pryderon a amlygwyd.
Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.