Dyddiad yr Adroddiad

10/31/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202105707

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal cartref a ddarparwyd i’w mam, Mrs B, gan Asiantaeth Gofal ym mis Ebrill 2021, a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cwynodd fod y Cyngor yn ymwybodol o faterion diogelu parhaus gyda’r Asiantaeth Gofal, ac eto fe’u comisiynwyd i ddarparu gofal i’w mam a defnyddwyr gwasanaeth agored i niwed eraill gan eu rhoi mewn perygl. Dywedodd nad oedd gan y Cyngor brosesau monitro ac adolygu clir ar waith ac nad oedd ei ymchwiliad i gŵyn yn gadarn. Dywedodd Mrs A hefyd fod y Cyngor wedi gwrthod, oherwydd pandemig COVID-19, cynnal asesiad cartref newydd i gefnogi’r taliadau uniongyrchol a wnaeth ei mam pan symudodd at ddarparwr gofal newydd.

Canfu’r ymchwiliad fod y Cyngor yn ymwybodol o risgiau parhaus gyda’r Asiantaeth Gofal yn sgil y gwaith monitro a wnaeth ym mis Chwefror 2020 a bod y rhain yn adleisio’r pryderon a godwyd gan Mrs A ym mis Ebrill 2021. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Cyngor yn gallu darparu unrhyw dystiolaeth ddogfennol a fyddai’n rhoi sicrwydd bod yr Asiantaeth Gofal yn cael ei monitro’n gadarn ac yn effeithiol. Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod y methiannau gweinyddol yn gamweinyddu a bod y straen a’r anhwylustod a achoswyd i Mrs A a’i mam yn anghyfiawnder. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod gan y Cyngor broses monitro ac adolygu ar waith a’i fod yn dangos ei fod yn dilyn gofynion monitro’r Asiantaeth Gofal ar ôl mis Ebrill 2021. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor yn gallu dangos prosesau monitro ac adolygu effeithiol rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2021, sy’n rhan annatod o’r broses monitro ac adolygu. O ganlyniad, gadawyd Mrs A gyda’r ansicrwydd o beidio â gwybod p’un ai a fyddai prosesau monitro effeithiol wedi digwydd, y byddai’r canlyniad i’w mam wedi bod yn wahanol. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mrs A a’i mam. Cafodd y rhannau hyn o gŵyn Mrs A eu cadarnhau.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod penderfyniad Ymchwilydd Cam 2 y Cyngor i ddiystyru tystiolaeth fonitro’r Cyngor o fis Chwefror 2020 ymlaen yn golygu bod tebygrwydd rhwng hynny a’r pryderon nad oedd Mrs A yn credu eu bod wedi cael eu harchwilio’n ddigonol. Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad mai’r anghyfiawnder i Mrs A oedd y diffyg hyder a ddioddefodd yn y broses delio â chwynion a’r anhwylustod a achoswyd iddi wrth orfod mynd ar drywydd ei chŵyn ymhellach er mwyn cael atebion. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agweddau hyn ar gŵyn Mrs A.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ag esboniad y Cyngor oherwydd pandemig COVID-19 nad oedd yn gallu cynnal asesiad wyneb yn wyneb yng nghyswllt Mrs B. Ac ystyried mai rheswm Mrs A dros ofyn am yr oriau ychwanegol oedd nad oedd y darparwr wedi cynnal ymweliadau am lai nag awr, yn hytrach na bod anghenion gofal ei mam wedi newid, ni chafodd y rhan hon o gŵyn Mrs A ei chadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor ymddiheuro i Mrs A a’i mam am y methiannau a nodwyd yn yr ymchwiliad ac rwy’n atgoffa’r holl staff sy’n ymwneud â’r broses adroddiad monitro eu bod yn cwblhau’r dogfennau’n llawn cyn i’r Rheolwr Contractau eu cymeradwyo.