Dyddiad yr Adroddiad

02/04/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202408172

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd yr ymateb Cam 2 i gŵyn a gafodd gan y Cyngor, yn ymwneud â’i ewythr a gofal cymdeithasol i oedolion, yn rhoi sylw i’r holl bryderon a godwyd ganddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yr ymateb Cam 2 i’r gŵyn wedi rhoi sylw llawn i’r materion a godwyd gan Mr A yn ei gŵyn i’r Cyngor, na’r pryderon a godwyd ganddo ynglŷn â sut yr ymdriniwyd â phryderon yn ymwneud â diogelu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai o fewn 1 mis yn ymddiheuro i Mr A am beidio rhoi sylw llawn i’w gŵyn Cam 2, am beidio rhoi sylw i’r pryderon a godwyd ganddo ac i atgoffa gweithwyr cymdeithasol o’u cyfrifoldebau wrth ddelio â gwybodaeth yn ymwneud â phryderon diogelu.