Dyddiad yr Adroddiad

11/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202406955

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A, er bod ei chŵyn wedi’i chadarnhau yn dilyn ymchwiliad, yn benodol ynghylch cyfathrebu gwael â’i mam-gu / teulu ynghylch y trefniadau ar gyfer codi tâl ariannol mewn 2 gartref gofal preswyl sy’n eiddo i’r Cyngor lle cafodd ei mam-gu ei hasesu, bod y Cyngor yn dal i erlid y teulu am yr arian.

Cadarnhaodd ymchwiliad annibynnol, yng ngham 2 Trefn Gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol, gŵyn Ms A. Wrth ymateb i’r ymchwiliad, roedd y Cyngor yn cydnabod y bu cam-gyfathrebu ynghylch y trefniadau codi tâl, ac roedd yn derbyn nad oedd y rhain wedi cael eu hesbonio’n llawn i’r teulu. Roedd hefyd yn cydnabod nad oedd dogfennau am y ffioedd yn eu lle neu nad oedd yr wybodaeth ynghylch y ffioedd yn glir.

Er bod y Cyngor yn cydnabod diffygion yn y ffordd yr oedd yn cyfathrebu â’r teulu am y ffioedd hyn, ac yn ymddiheuro am hynny, roedd elfen o gŵyn Ms A a oedd yn parhau i fod yn un sydd heb ei datrys, ac sy’n deillio o’r diffygion a nodwyd. O ganlyniad, cytunodd y Cyngor i hepgor y ffioedd sy’n weddill mewn perthynas â’r ddau gartref gofal.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y camau y dywedodd y Cyngor y byddai’n eu cymryd yn rhesymol ac yn gymesur wrth ddatrys y gwyn.