Dyddiad yr Adroddiad

07/06/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202201189

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi gwrthod ystyried ei gŵyn (ynghylch darpariaeth gofal i’w fam) dan gam 2 trefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y broses asesu a darparu gofal yn swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol a fyddai’n dod o dan y broses gwyno statudol. Pe byddai Mr X yn cyflwyno ei bwyntiau cwyno eithriadol, cytunodd y Cyngor, felly, i ystyried y gŵyn o dan gam 2 o’r broses honno.