Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl ag anabledd

Cyfeirnod Achos

202203615

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Ms A wrth y Cyngor nad oedd wedi asesu a diwallu ei hanghenion hi a’i phartner, Mr B, fel gofalwyr yn briodol. Roedd y Cyngor wedi contractio Ymchwilydd Annibynnol i gynnal ymchwiliad ffurfiol Cam 2 a oedd yn cadarnhau cwyn Ms A. Cwynodd Ms A wrth yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi bwrw ymlaen â’r camau a argymhellwyd o’r ymchwiliad Cam 2 i sicrhau bod ganddi hi a’i phartner asesiadau a chymorth priodol ar waith.

Yn ystod cam casglu tystiolaeth yr ymchwiliad, canfu’r Ombwdsmon fod Ms A wedi cwblhau asesiad gofalwyr dros y ffôn ond nad oedd wedi cael copi ohono. Roedd Ms A wedi cael gwybodaeth ysgrifenedig am y gwasanaethau sydd ar gael ond roedd yn teimlo y dylai fod wedi cael cymorth wyneb yn wyneb i’w deall. Roedd proses asesu gofalwyr Ms A wedi cael ei chau pan na wnaeth ymateb ar ôl i wybodaeth gael ei darparu. Nid oedd Mr B wedi cael cynnig asesiad ar wahân a thybiwyd bod asesiad Ms A wedi ymdrin ag amgylchiadau’r teulu cyfan.

Cynigiodd y Cyngor setliad gwirfoddol. Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Ms A am beidio â darparu copi o’r asesiad ffôn a gafodd ac i sicrhau ei bod bellach wedi derbyn copi. Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr B am beidio â chynnig asesiad ar wahân iddo. Cytunodd y Cyngor hefyd i gadarnhau wrth Ms A a Mr B eu bod yn gallu cael gafael ar asesiadau a chymorth gofalwyr, wrth gyflawni rôl ofalu, a’u hatgoffa o’r manylion cyswllt i wneud hyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau gweithredu’n rhesymol ac yn gymesur i ddatrys y gŵyn a bod yr ymchwiliad wedi dod i ben.