Cwynodd Mr A fod adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor wedi methu â darparu cefnogaeth briodol i’w deulu ers iddynt symud i’w hardal yn 2018. Dywedodd fod y Cyngor wedi nodi angen am ofal seibiant preswyl i’w fab anabl, B, ond wedi methu â darparu hyn. Dywedodd fod methiannau’r Cyngor yn golygu bod y teulu wedi cael eu gadael heb gefnogaeth hyd yn oed wrth iddynt orfod dioddef dirywiad iechyd meddwl a hunanladdiad eu merch hynaf yn y pen draw. Cwynodd hefyd fod ymatebion y Cyngor i’w gŵyn a chŵyn a wnaed gan ei gyn-bartner Ms C yn annigonol ac wedi’u gohirio ym mhob cam.
Ar ôl ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod methiant wedi bod dros 6 blynedd i ddiwallu angen canfyddedig B am seibiant preswyl. Er bod rhai o’r ffactorau a gyfrannodd at hyn i raddau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod diffyg ysgogiad neu frys i drefnu seibiant preswyl. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus, oni bai am fethiannau wrth ymdrin â chwynion, y gellid bod wedi mynd i’r afael â chwynion Mr A a Ms C hyd at flwyddyn ynghynt.
Mewn ymateb i bryderon yr Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro am, a chydnabod, y methiannau i drefnu seibiant preswyl addas dros gyfnod o 6 blynedd ac i ymchwilio i bryderon ehangach ynghylch diffyg cefnogaeth i B mewn modd amserol. Cytunodd i wneud taliadau iawndal ariannol gwerth cyfanswm o £1,000 i Mr A a Ms C mewn perthynas â methiannau yn ymdrin â chwynion a’r cyfle a gollwyd i dderbyn cefnogaeth a allai fod wedi gwella eu llesiant fel unigolion a’u gallu i gefnogi eu plant yn sylweddol.
Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnal adolygiad o’i ddarpariaeth seibiant preswyl ac i adolygu ei broses o drin cwynion, gan ystyried pryderon penodol a godwyd gan yr Ombwdsmon.